Ydych chi’n gwybod faint o arian sydd yng nghyfrif eich clwb esports ar hyn o bryd? Neu faint sy’n ddyledus yn y dyddiau nesaf? Bydd yn llawer haws rheoli cyllid eich clwb os byddwch yn cadw cofnodion cywir ac yn adrodd yn erbyn eich cyllideb flynyddol. Dyma sut i symleiddio’r broses a chadw’ch clwb yn iach yn ariannol.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob clwb gadw cofnodion cyfrifyddu sy’n cofnodi’r holl drafodion ariannol. Dylech hefyd gadw cofnodion o:
Defnyddir y cofnodion hyn i baratoi cyfrifon blynyddol ac mae eu hangen ar archwilwyr/cyfrifwyr a Chyllid a Thollau EM os bydd archwiliad treth.
Yn dibynnu ar faint eich clwb a nifer y trafodion, gallwch ddefnyddio:
Ystyriwch ddefnyddio meddalwedd cyfrifo oddi ar y silff neu yn y cwmwl fel QuickBooks neu Xero. Mae buddion yn cynnwys:
Mae clwb sefydlog a llwyddiannus yn adolygu ei gyllid yn rheolaidd. Cynhyrchwch adroddiadau ariannol misol yn dangos incwm a gwariant, gan gymharu perfformiad gwirioneddol â’ch cyllideb. Mae hyn yn eich helpu i aros ar y trywydd iawn a gweithredu os oes angen.
I gadw golwg ar eich cyllid, gallwch:
Dylai cyfrifon rheoli gynnwys:
Traciwch offer gwerthfawr gyda chofrestr asedau sefydlog, gan gynnwys:
Mae’r gofrestr hon yn helpu gyda gofynion yswiriant, adnewyddu, a hawliadau.