Os oes gennych chi gynllun datblygu clwb eisoes ac yn barod i fynd un cam ymhellach, efallai y byddwch am ystyried datblygu cynllun busnes.
Mae cynllun busnes yn ddogfen fanwl sy’n nodi’n glir sefyllfa bresennol y clwb a’i gyfleoedd ar gyfer twf yn y dyfodol. Mae cynllun busnes yn rhoi mwy o ffocws ar sefyllfa ariannol y clwb yn ogystal â chynhyrchu incwm, cyllid a phrosiectau a fydd yn ymestyn gweithgareddau’r clwb.
Ymunwch â’n sesiynau Academi Esports Cymru ar ddatblygu busnes ar sut i sefydlu eich cynllun busnes.