Partneriaethau

PARTNERIAETHAU CLWB

Mae ticio pob gôl ar eich rhestr yn gallu bod yn anodd fel clwb ar eich pen eich hun, ac mae clybiau llwyddiannus yn gwybod bod cysylltiadau â sefydliadau eraill yn hanfodol.

Dyma rai ystyriaethau i’ch rhoi ar ben ffordd:

  1. Os nad yw eich clwb esports yn gysylltiedig ag Esports Cymru yna dylech ystyried ymaelodi gan ei fod yn golygu efallai y bydd y clwb yn gallu cyrchu cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol. 
  2. Mae bob amser yn syniad da ffurfio perthynas gadarnhaol gyda’ch ysgolion , colegau neu brifysgolion lleol i hyrwyddo’ch clwb a denu aelodau newydd.
  3. Mae hefyd yn werth meddwl am ffurfio perthynas, boed yn ffurfiol neu’n anffurfiol, gyda chlybiau chwaraeon traddodiadol yn eich ardal. Gall hyn helpu trwy  rhannu adnoddau, arfer gorau a buddion i aelodau. Gallai hyn hyd yn oed ymestyn i glybiau ymhellach i ffwrdd gan helpu i dyfu’r clwb a’r sgiliau fel ei gilydd.  
  4. Gallai ymuno â chlwb arall olygu y gallwch ehangu’r hyn sydd ar gael i aelodau ac ehangu eich sylfaen aelodaeth. 
  5. Gyda phwy allwch chi bartneru i helpu gyda recriwtio, cadw a chefnogi gwirfoddolwyr? Ystyriwch pa adnoddau sydd gennych yn lleol i chi a sut y gallent eich helpu. Er enghraifft, a allech chi weithio mewn partneriaeth â choleg lleol  neu fusnes?  
  6. Os ydych chi eisiau creu amgylchedd sy’n croesawu aelodaeth amrywiol, a oes angen i chi ddod â phartner fel ( Chwaraeon Anabledd CymruChwaraeon LHDT CymruDiverse Cymru ) ar fwrdd i’ch helpu chi?
  7. Ystyriwch feithrin cysylltiadau â chrëwr/ffrydiwr cynnwys i helpu i hyrwyddo eich clwb a datblygu sylfaen o gefnogwyr. 

Gall partneriaethau fod yn hynod lwyddiannus ond gallant chwalu yr un mor hawdd. Dyna pam ei bod yn bwysig cynnal cyfathrebu gonest ac agored rhyngoch chi (y clwb) a phartneriaid bob amser.