Nid yw rheoli risg yn ymwneud ag iechyd a diogelwch ac yswiriant yn unig. Mae’n ymwneud â diogelu data hefyd.
Mae gan eich clwb gyfrifoldeb i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol sydd ganddo. Mae deddfwriaeth diogelu data yn cwmpasu pawb yr ydych yn cadw data personol amdanynt, gan gynnwys cyflogeion, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth, a chyllidwyr.
Os yw eich clwb neu gymdeithas esports yn cadw data personol (h.y., gwybodaeth sy’n adnabod unigolyn byw) am weithwyr, aelodau, gwirfoddolwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr, ac eraill, mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (‘GDPR’).
Mae’r GDPR, a ddisgrifir gan yr ICO fel “newidiwr gêm i bawb,” yn ei gwneud yn ofynnol i bob clwb a chymdeithas ailfeddwl eu hagwedd at ddata personol. Daw i rym ar 25 Mai 2018, a rhaid i sefydliadau ddefnyddio’r amser cyflwyno yn ddoeth i sicrhau cydymffurfiaeth erbyn y terfyn amser hwnnw.
Os yw eich sefydliad yn aelod o’i Gorff Llywodraethu Cenedlaethol, cysylltwch ag ef gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch bodloni gofynion GDPR.