Pan fyddwn yn siarad am gydraddoldeb yn y sector esports, rydym yn golygu trin pobl yn deg a sicrhau hygyrchedd i bawb, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw, neu cyfeiriadedd rhywiol.
Mae gan glybiau Esports gyfrifoldeb i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Mae hyn yn golygu ystyried anghenion pob unigolyn wrth ddarparu gwasanaethau. Dylai pawb gael y cyfle i chwarae, cystadlu, gweinyddu, neu ymwneud â strwythurau clwb esports.
Er mwyn sicrhau’r cynhwysiant hwn, efallai y bydd angen i glybiau addasu rhai arferion i ddarparu ar gyfer gwahanol unigolion. Dyma rai ffyrdd o sicrhau bod eich clwb yn gynhwysol:
Mantais mwyaf hyrwyddo cydraddoldeb wrth gwrs yw eich bod yn cynnig cyfleoedd esport i bawb. Bydd sicrhau bod eich clwb esports yn amrywiol, yn gynhwysol, ac yn mynd ati i gyfathrebu’r ffactorau hynny yn dod â llu o fanteision yn ei sgil.
Nid yn unig y bydd eich aelodau’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi, ond ar ben hynny byddwch hefyd yn denu cyfranogwyr newydd a diddordeb rhanddeiliaid, yn meithrin enw da, yn lleihau risg drwy wella eich llywodraethu a rheoli risg, yn cynyddu cyfleoedd nawdd, yn helpu i chwalu rhwystrau mewn esports a chynyddu cyfleoedd cyfranogiad.
Dylai aelodaeth amrywiol olygu cymysgedd amrywiol o benderfynwyr ar eich pwyllgor. Bydd hyn yn helpu eich clwb i lunio ei wasanaethau i ddiwallu anghenion ei aelodau ac i ehangu ei gyrhaeddiad i aelodau newydd. Hefyd, mae hyrwyddo cydraddoldeb yn arfer da a chaiff ei ystyried yn gadarnhaol gan gyllidwyr.
Mae Activity Alliance wedi datblygu Canllaw Cyfathrebu Cynhwysol y gellir ei lawrlwytho i helpu darparwyr chwaraeon fel chi i gyrraedd cynulleidfa ehangach gan ddefnyddio gwahanol offer cyfathrebu, dulliau a hyd yn oed naws y llais. Mae gan Activity Alliance lawer o adnoddau gwych ar eu gwefan y gall clybiau eu cyrchu ac a allai fod yn ddefnyddiol yn eu hymgais i ddod yn fwy cynhwysol a hygyrch.
Drwy wneud yr ystyriaethau hyn, gall eich clwb greu amgylchedd croesawgar lle mae gan bawb y cyfle i gymryd rhan a ffynnu mewn esports.